• Booklets
  • Catalogue
  • Training
  • EggsBanner

block texture border muted

Lansio'r Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol wedi eu hadnewyddu

Lansio'r Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol wedi eu hadnewyddu

 

Ar 20 Tachwedd, mae Cymru Ifanc, y porth cyfranogiad yn Plant yng Nghymru, yn lansio fersiwn wedi'i diweddaru o'r Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol Plant a Phobl Ifanc.

 

Mae'r Safonau yn nodi'r ystyriaethau allweddol y dylai pob gweithiwr fod yn ymwybodol ohonynt wrth weithio gyda phlant a phobl ifanc yng Nghymru. Fe'u seilir ar Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru).

 

Mae'r lansiad yn nodi Diwrnod Plant Byd-eang, sy'n dathlu'r dyddiad y mabwysiadodd Cynulliad Cenedlaethol y Cenhedloedd Unedig y datganiad a'r confensiwn ar hawliau plant. Mae'n ddiwrnod i hybu ymwybyddiaeth o les plant yn fyd-eang.

 

Cafodd y Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol eu datblygu'n wreiddiol gan yr Uned Cyfranogiad, ac maent wedi eu hadnewyddu gan bartneriaeth rhwng gweithwyr y Fforwm Ieuenctid a Cymru Ifanc. Cafodd y gwaith ei lywio gan ymgynghoriadau â phobl ifanc.

 

Cafodd y gwaith ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru, a nododd rôl Safonau Cyfranogiad mewn canllawiau. Seilir y Safonau hefyd ar Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, sy'n gosod cyfranogiad plant yn galon gwella llesiant.

 

Mae nod barcud a siarter wedi eu llunio hefyd i gyrff ddangos eu bod yn gweithio yn ôl y safonau hyn. Mae rhagor o wybodaeth am y Safonau yma. Cewch ymuno â'r sgwrs am Ddiwrnod Plant Byd-eang ar gyfryngau cymdeithasol drwy ddefnyddio #KidsTakeOver

ParticipationStandards Poster 9

Mae'r wefan hon a'i chynnwys i gyd yn hawlfraint 2018 Llywodraeth Cymru
YouthFriendly Web Logo  ceop-logo  Welsh Assembly Government logo  CRights Aware Logo

We use cookies to give you the best possible experience.

By continuing to use our website we assume you agree with our cookie policy.