• Catalogue
  • EggsBanner
  • Booklets
  • Training

block texture border muted

Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid 2018

Mae’r cyfnod enwebu wedi agor bellach!

 

Mae’r Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid yn gyfle i gydnabod a dathlu gweithwyr ieuenctid rhagorol Cymru a'r prosiectau gwaith ieuenctid eithriadol sy’n digwydd ar hyd a lled y wlad.

 

Yn 2018, bydd y Noson Wobrwyo Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid yn cael ei chynnal nos Wener, 29 Mehefin, yng Nghaerdydd. Nodwch: mae angen gwahoddiad i ddod i’r noson wobrwyo.

 

Nodwch: Ni fydd enwebiadau sydd heb gael eu cyflwyno ar y ffurflenni enwebu cywir, neu enwebiadau a gyflwynir mewn modd nad yw’n unol â’r canllawiau, yn cael eu hystyried gan y beirniaid. Oherwydd nifer yr enwebiadau sy’n dod i law, ni chewch gyfle i ailgyflwyno eich enwebiad.

 

Rydym wedi newid y canllawiau enwebu, y categorïau a’r ffurflenni enwebu ar gyfer 2018. Sicrhewch eich bod yn darllen y canllawiau enwebu cyn llenwi a chyflwyno unrhyw ffurflen enwebu.

 

Gellir dod o hyd i’r mwy o wybodaeth, ffurflenni enwebu cywir a’r canllawiau enwebu yma: http://gov.wales/topics/educationandskills/skillsandtraining/youth-work/youth-work-excellence-awards-2018/?skip=1&lang=cy

 

Mae'r wefan hon a'i chynnwys i gyd yn hawlfraint 2018 Llywodraeth Cymru
YouthFriendly Web Logo  ceop-logo  Welsh Assembly Government logo  CRights Aware Logo

We use cookies to give you the best possible experience.

By continuing to use our website we assume you agree with our cookie policy.