Yn 2018 bydd y darpariaethau yn Neddf Cymru 2017 sy’n ymwneud â materion etholiadol a chofrestru yn dod i rym. Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar:
- sut mae democratiaeth yn gweithio yng Nghymru
- sut mae pobl yn dod yn gymwys i bleidleisio
- sut maen nhw’n arfer eu hawl i bleidleisio
- sut mae etholiadau’n cael eu trefnu.
Newid pwy sy’n cael pleidleisio
Oedran Pleidleisio
I bleidleisio mewn etholiadau mae’n rhaid ichi fod dros 18 oed.
**Mae Llywodraeth Cymru eisiau cynnwys pobl ifanc 16 a 17 oed hefyd.**

Gallwch weld y ddogfen ymgynghori yma
Gallwch weld y ddogfen ymgynhori – fersiwn pobl ifanc yma
Sut i ymateb
Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 10 Hydref 2017, ar un o`r ffurfiau a ganlyn:
- Ffurflen ar Lein: Ymateb ar Lein
- Ebost: Lawrlwythwch y ffurflen ymateb. Cwblhewch a'i dychwelyd i: This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it.
- Post: Lawrlwythwch y ffurflen ymateb. Cwblhewch a'i dychwelyd i: Yr Is-adran, Democratiaeth Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Adeilad y Goron, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ
Y dyddiad cau ar gyfer yr Ymgynghoriad yw: 10 Hydref, 2017
Beth yw Y ffordd Gywir: Dull gweithredu seiliedig ar Hawliau Plant yng Nghymru?
Fframwaith ymarferol ar gyfer gweithio gyda phlant, wedi’i wreiddio yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP), i helpu cyrff cyhoeddus i integreiddio hawliau plant i bob agwedd ar lunio penderfyniadau, polisi ac ymarfer.
Mae’r canllaw, sydd wedi’i greu gan Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru gyda chyngor arbenigol gan Arsyllfa Hawliau Dynol Plant a Phobl Ifanc Cymru (ym Mhrifysgolion Abertawe a Bangor), yn annog gwasanaethau cyhoeddus ar draws y wlad i ymrwymo i CCUHP a gwella sut maen nhw’n cynllunio ac yn darparu eu gwasanaethau.
Mae e ar gael i lawrlwytho yma.
Pam ddylwn i ddefnyddio’r fframwaith hwn?
Mae buddsoddi mewn hawliau dynol plant yn creu manteision gwirioneddol i sefydliadau:
-
Bydd yn helpu cyrff sector cyhoeddus i gyflawni eu dyletswyddau statudol.
-
Mae’n cyfrannu at alluogi mwy o blant a phobl ifanc i ymwneud yn well â gwasanaethau cyhoeddus.
-
Mae’n sicrhau bod ffocws gwirioneddol ar anghenion penodol plant y gall eu lleisiau gael eu collineu eu distewi
-
Mae’n creu amgylchedd lle mae gwasanaethau cyhoeddus yn atebol i’w holl ddefnyddwyr.
Am fwy o fanylion, cysylltwch â ni.
Mae Y Ffordd Gywir: Dull Gweithredu seiliedig ar Hawliau Plant i Addysg yng Nghymru ar gael i’w ddarllen yma.
*** Noder, mae'r adnoddau hyn yn cael eu cyhoeddi gan Gomisiynydd Plant Cymru ***
Adnoddau newydd ar hawliau blant sydd yn addas i blant.
Mae Cynghrair Hawliau Plant i Lloegr wedi lansio dau gyhoeddiad ar gyfer plant a phobl ifanc ar sut y mae'r DU yn parchu hawliau plant.
Wedi'i ariannu gan Adran y DU dros Addysg, mae’r ddwy bamffled yn crynhoi'r Sylwadau Terfynol – Dyfarniad Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn ar sut y mae'r DU yn parchu hawliau plant - mewn iaith sy'n addas i blant. Mae un wedi ei anelu at blant iau rhwng 7 a 11 oed a'r llall ar gyfer plant rhwng 12 a 17 oed. Mae Gweinidog newydd y DU ar gyfer Plant a Theuluoedd, Robert Goodwill wedi ysgrifennu rhagair.
Mae Cynghrair Hawliau Plant i Lloegr wedi gweithio gyda phlant yn Ysgol Iau Hove a'r grŵp llywio ‘Change It’! i gyd-gynhyrchu'r crynodebau i sicrhau eu bod yn hygyrch i blant o grwpiau oedran wahanol. Gall plant a phobl ifanc ddefnyddio'r adnoddau i weld sut mae Llywodraeth y DU yn ei wneud ar amrywion o faterion sy'n ymwneud â hawliau plant yn cynnwys gwneud yn siŵr bod plant yn cael lle gweddus i fyw, yn cael eu cadw'n ddiogel, yn cael addysg da ac yn cael llais.
Lawrlwythwch y crynodeb ar gyfer plant 7-11 oed yma
Lawrlwythwch y crynodeb ar gyfer 12-17 oed yma
Os hoffech dderbyn copi caled, e-bostiwch: This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it.
Noder fersiynau Saesneg yn unig o'r dogfennau sydd ar gael.
Ymunwch â’r gweithgareddau garddio llawn hwyl i’r teulu ym Mharc y Rhath yr haf hwn! #caerdyddgwyllt

Mae Wythnos Gwaith Ieuenctid yn ddigwyddiad blynyddol sy'n rhoi'r cyfle i sefydliadau gwaith ieuenctid a phobl ifanc ddathlu effaith gwaith ieuenctid a'r hyn y mae'n ei gyflawni. Bydd nifer o ddigwyddiadau a gweithgareddau'n cael eu cynnal ar hyd a lled Cymru, a bydd yr wythnos yn cael ei lansio yn Noson Gwobrwyo Rhagoriaeth mewn Gwaith Ieuenctid yng Nghaerdydd ar 23 Mehefin.
Ar 27 Mehefin, bydd y Senedd yn croesawu digwyddiad arddangos a fydd yn rhoi'r cyfle i sefydliadau gwaith ieuenctid hyrwyddo ac arddangos y gwaith da maent yn ei wneud gyda phobl ifanc Cymru. Os fyddwch yng nghyffiniau'r Senedd rhwng 10.30am a 3pm ar y diwrnod hwnnw, ewch draw i gael sgwrs â'r sefydliadau ac i gael rhagor o wybodaeth am eu gwaith, a sut y mae eu gwaith yn cefnogi ymrwymiadau a pholisïau Llywodraeth Cymru.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Wythnos Gwaith Ieuenctid
Thunderclap https://www.thunderclap.it/projects/57011-youth-work-week-wales
